Ym mis Tachwedd gwnaethom gwrdd â Lloyd Wilson, Syrfëwr Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig ateb, i drafod cynnydd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn Vineyard Vale yn Saundersfoot. Mae’r gwaith yn rhan o ymrwymiad tair blynedd ateb i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ledled Sir Benfro, gyda chymorth gan Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.
Nod y fenter yw gwneud gwaith ôl-osod mewn 100 o gartrefi ac arolygu dros 1,000 o gartrefi ychwanegol er mwyn nodi a chyflawni gwelliannau a fydd yn ei gwneud yn bosibl arbed ynni. Yn Vineyard Vale, mae deunydd inswleiddio wedi’i osod ar waliau allanol er mwyn gwella effeithlonrwydd thermol, yn ogystal â synwyryddion amgylcheddol sy’n monitro’r tymheredd, lleithder, y gwlithbwynt a lefelau CO2.
“Mae’r synwyryddion hyn yn darparu data amhrisiadwy,” esboniodd Lloyd. “Maent yn helpu preswylwyr i optimeiddio eu defnydd o ynni, arbed arian a gwella eu hamgylcheddau byw.” Ar gyfartaledd, mae pob prosiect ôl-osod yn werth dros £25,000 i bob eiddo, diolch i’r cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ni ddewisodd pob un o’r preswylwyr gymryd rhan yn y rhaglen, ond soniodd y sawl a ddewisodd wneud hynny eu bod wedi sylwi ar fanteision amlwg.
Soniodd Jenny, un o breswylwyr Vineyard Vale, em ei phrofiad hi: “Rwy’n bendant wedi sylwi ar wahaniaeth. Mae’r tŷ yn cynhesu’n gynt o lawer nag o’r blaen. Roedd yn debyg i safle adeiladu am gyfnod, ond roedd y gweithwyr yn ardderchog – yn drwyadl, yn gyfeillgar ac yn gyflym. Mae’r canlyniadau wedi bod yn werth y drafferth.”
Cafodd barn Jenny ei hadleisio gan Denise a Colin sydd hefyd yn byw yn Vineyard Vale: “Mae’n wir bod y gwaith wedi achosi rhywfaint o annibendod, ond mae’r canlyniad yn anhygoel. Mae’n arbed arian i ni’n barod. Mae’r tŷ yn aros yn oer yn yr haf ac yn cynhesu’n gynt o lawer yn y gaeaf. Mae’r gwahaniaeth wedi bod yn rhyfeddol.”
Bu Wayne Bayly, Rheolwr Prosiect gyda LCB Group, a fu’n cydweithio ag ateb ar y prosiect hwn, yn sôn am y gwelliannau technegol: “Rydym wedi gosod System Wetherby 100mm o ran deunydd inswleiddio ar waliau allanol er mwyn gwella gwerthoedd U, sy’n lleihau’r ynni sy’n ofynnol i wresogi ac oeri cartrefi. Mae synwyryddion iOPT yn monitro lleithder a CO2, sy’n helpu i ddarganfod problemau posibl o ran llwydni ac anwedd. Yn ogystal, rydym wedi gwella llinellau toeau, seliau a systemau awyru.”
Meddai Wayne wedyn: “Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol tu hwnt. Mae’r cartrefi nid yn unig yn perfformio’n well ond hefyd yn edrych yn fwy deniadol o lawer. Mae pawb ar eu hennill.”
Mae’r prosiect trawsnewidiol hwn yn rhan o genhadaeth ehangach ateb i greu cartrefi cynaliadwy, effeithlon o ran ynni. Yn sgil ymdrechion parhaus, mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn helpu ein cwsmeriaid ar draws gorllewin Cymru i fwynhau gaeafau cynhesach, hafau oerach a biliau ynni rhatach.