Mwynhau Te Prynhawn

Cafodd cwsmeriaid yn ein llety Byw’n Annibynnol (Gofal Ychwanegol) yn DeClare Court a Kensington Court gyfle i fwynhau Te Prynhawn am ddim yr wythnos hon.

Gwnaethom gynnal y digwyddiad yn ein bwytai Gofal Ychwanegol lle cafodd ein cwsmeriaid gyfle i fwynhau gwledd o gacennau, brechdanau a hyd yn oed ychydig o Pimm’s!

 

Meddai Joan sy’n byw yn Declare Court ers dros 8 mlynedd: “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bob un ohonom, ac rwyf wedi gweld eisiau cael cyfle i gwrdd yn y bwyty a chael cinio gyda fy ffrindiau. Rwyf wedi cael cymaint o hwyl heddiw ac yn teimlo’n fwy cysurus o lawer ynglŷn â mynd yn ôl i gael fy mhrydau bwyd rheolaidd yn y bwyty unwaith eto.”

Meddai Amy, Arweinydd ein Tîm Byw’n Annibynnol: “Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio’n raddol, rydym yn gobeithio ailgyflwyno nifer gynyddol o weithgareddau cymunedol sy’n hollbwysig i les ein cwsmeriaid. Ni fyddwn yn cymryd unrhyw risgiau, ac roedd hwn yn brawf da ar ein polisïau a’n gweithdrefnau. Rydym yn edrych ymlaen at y cam nesaf yn ein trefniadau i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu mwynhau prydau bwyd gyda’i gilydd yn ystod y misoedd nesaf, er y byddwn yn dal i gynnig gwasanaeth danfon bwyd i’r cartref ar gyfer y cwsmeriaid sy’n awyddus i’w gael.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am fyw yn ein llety Gofal Ychwanegol, ewch i’n tudalen Byw’n Annibynnol

Cyhoeddwyd: 15/07/21