Myfyrio ynghylch 2020 – Sicrhau bod rhenti’n dal yn fforddiadwy

  • Rhenti 500+ o gartrefi’n codi 0% am 3 blynedd
  • Rhenti’r rhan fwyaf o gartrefi eraill yn codi’n unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig am 2 flynedd
  • Cyfartaledd rhenti wythnosol yn is na landlordiaid cymdeithasol cofrestredig tebyg

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i bob un o’n cwsmeriaid, a dyna pam y gwnaethom gyfyngu ar godiadau rhent am yr ail flwyddyn ers i ni lansio ein polisi rhenti fforddiadwy. Dyma ein Cadeirydd, David Birch, i esbonio…

“Roedd y Bwrdd yn awyddus i ymateb i’r pryderon cynyddol am renti a thanwydd fforddiadwy yn ein cartrefi cymdeithasol. Ers 2 flynedd, mae ein rhenti wedi’u pennu yn unol â’n polisi rhenti fforddiadwy, a gafodd ei seilio ar ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree. Mae’r polisi yn golygu ein bod wedi cyfyngu codiadau i ffigur Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynegai Prisiau Defnyddwyr, a oedd 1% yn is na’r codiad rhent dichonadwy y gellid bod wedi’i gyflwyno. Yn ogystal, penderfynodd y Bwrdd barhau i rewi rhenti am y drydedd flwyddyn yng nghyswllt ein 595 o gartrefi rhent canolradd, er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn fforddiadwy. Mae ein cyfartaledd rhent gyda’r mwyaf cystadleuol o hyd ymhlith y cymdeithasau tai sydd yn Sir Benfro.

Un rhan yn unig o’n pryder am fforddiadwyedd yw rhent. Yn rhan o’n cyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd, byddwn dros y flwyddyn nesaf yn datblygu cynlluniau ateb i leihau’r ynni sy’n ofynnol i wresogi cartrefi, ac felly’n lleihau costau ein cwsmeriaid.”

Mae cyflwyno ein polisi rhenti a datblygu strategaeth ddatgarboneiddio er mwyn lleihau costau tanwydd yn gamau mawr tuag at wella fforddiadwyedd ein cartrefi a helpu Cymru i gyrraedd ei tharged o ran bod yn sero-net.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Grŵp ateb Cyfyngedig

Mae Bwletinau Myfyrio ateb yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar rai o’n prif ystyriaethau a’n prif gyflawniadau yn ystod 2020.

I lawrlwytho copi o Fwletin Myfyrio 1 – Sicrhau bod rhenti’n dal yn fforddiadwy, cliciwch yma.

Mae Grŵp ateb yn cynnwys