Myfyrio ynghylch 2020 – WWCR Yn gwella bywydau

  • 327 o gwsmeriaid wedi cael cyngor a chymorth arbenigol
  • 1398 o addasiadau wedi’u gwneud i gartrefi cwsmeriaid
  • Helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol mewn cartrefi hygyrch sy’n gynnes ac yn ddiogel

Pobl hŷn ac agored i niwed oedd yn peri’r pryder mwyaf yn ystod y pandemig Covid-19. Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, sef un o’n his-gwmnïau, yn gweithio bob dydd gyda’r bobl hyn yn ein cymuned, gan roi cyngor iddynt yn aml ynghylch sut mae cael gafael ar gymorth neu fudd-daliadau, neu wneud addasiadau i’w cartrefi er mwyn sicrhau eu bod yn gallu aros yn annibynnol am gyfnod hirach. Ar y dechrau roedd pobl yn gofidio am adael ein tîm i mewn i’w cartrefi, ond yn dilyn sawl asesiad risg cafodd dull gweithio ei gyflwyno oedd yn rhoi hyder i’n cwsmeriaid.

Yn ystod y don gyntaf o Covid-19, roedd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â sicrhau bod cymaint o welyau ag a oedd yn bosibl yn rhydd. Yna, yn ddiweddarach, chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o sicrhau bod pobl yn aros o fewn terfynau swigen eu cartref a’u bod yn cael gofal cefnogol gan ein partneriaid. Meddai Is-gadeirydd Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru, Hugh Watchman:

“Drwy gydol holl drafferthion y llynedd, mae aelodau o dîm Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru wedi dod o hyd i ffordd o ddarparu eu gwasanaeth arferol o safon uchel i’n cwsmeriaid yn Sir Benfro a Cheredigion. Rydym wedi ymweld â chyfanswm o 327 o gwsmeriaid mewn modd diogel er mwyn rhoi cyngor a chymorth iddynt, ac rydym wedi gwneud 1398 o addasiadau i gartrefi cwsmeriaid. Mae lefelau bodlonrwydd ein cwsmeriaid wedi parhau’n uchel iawn drwy gydol y cyfnod anodd hwn, sydd unwaith eto yn amlygu’r gwahaniaeth y gall Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ei wneud i fywydau pobl.”

Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru bob amser wedi darparu gwasanaeth gwych i bobl hŷn ac agored i niwed yn ein cymunedau’n dawel bach, sydd wedi galluogi’r bobl hynny i fyw bywyd mwy annibynnol sy’n rhoi mwy o foddhad iddynt. Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru wedi parhau’n bartner allweddol i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Hywel Dda mewn ymdrechion i sicrhau bod pobl yn gallu byw’n annibynnol cyhyd ag sy’n bosibl.

Nick Hampshire
Prif Weithredwr
Grŵp ateb Cyfyngedig

Mae Bwletinau Myfyrio ateb yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar rai o’n prif ystyriaethau a’n prif gyflawniadau yn ystod 2020.

I lawrlwytho copi o Fwletin Myfyrio 4 – Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru | Yn gwella bywydau, cliciwch yma.

Mae Grŵp ateb yn cynnwys