Nawr Yw’r Amser – Tai Pawb

Mae’n bleser gan Tai Pawb gyhoeddi fod ein cynhadledd flynyddoedd yn dychwelyd – ar-lein ­– ddydd Mawrth 5 a dydd Mercher 6 Hydref 2021.

Bydd NAWR YW’R AMSER yn cynnwys amrywiaeth gyffrous o siaradwyr arbenigol, uchel eu proffil, gyda chyfoeth o brofiad bywyd a phrofiad proffesiynol. Fel ein cynadleddau blaenorol, rydym yn sicr y bydd eleni’n ysbrydoli, yn calonogi ac yn llawn gwybodaeth, ac yn bwydo eich angerdd dros droi geiriau yn weithredoedd.

Bydd y gynhadledd yn trafod pynciau allweddol y sector, ynghyd â meysydd gwaith y mae Tai Pawb wedi bod yn canolbwyntio arnynt, fel yr hawl i dai digonol, tai hygyrch, cynhwysiant LHDTQ+, a datgarboneiddio a newid hinsawdd. Bydd cytbwysedd o fyfyrio, cefnogi, a herio ymhlith ein harlwy. Byddwn yn cyhoeddi rhaglen lawn maes o law, yn cynnwys siaradwyr gwadd.

Bydd y gynhadledd hefyd yn cael ei rhannu’n gyfuniad o sesiynau llawn a sesiynau ymylol dewisol y gallwch eu teilwra i’r maes y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Gellir archebu lleoedd drwy ateb; anfonwch ebost atom: [email protected]

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

#WeAreAteb

Cyhoeddwyd: 06/09/21