Cartrefi newydd yn Aberllydan, ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig.

 

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod dau o’n cartrefi yn ein datblygiad newydd yn Sandyke Road, Aberllydan ar gael yn awr ar Cartrefi Dewisedig.

Cafodd y gymuned leol addewid y byddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl o gymuned Aberllydan y mae arnynt angen cartref, pan fyddai’r cartrefi newydd hyn yn cael eu gosod am y tro cyntaf.

Mae’r cynllun hwn y bwriedir iddo osod tai i bobl leol yn gwireddu’r addewid hwnnw, drwy roi blaenoriaeth i’r sawl sy’n byw yng nghymuned Aberllydan.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gweithio gyda’r gymuned leol wrth gynllunio ein datblygiadau, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld y cartrefi hyn yn cael eu gosod.

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch ein taflen am Aberllydan

Cyhoeddwyd: 18/12/2020