Newid yn eich rhent? Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich cyfrif ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich cyfrif ar-lein drwy nodi manylion eich taliadau rhent newydd.

Dylech fod wedi cael llythyr gan ateb (yn gynharach eleni) a oedd yn cadarnhau eich taliadau rhent newydd o ddydd Llun 3 Ebrill 2023 ymlaen. Dylech gadw’r llythyr yn ddiogel oherwydd bydd angen i chi ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau beth yw swm newydd eich rhent er mwyn osgoi talu swm rhy fach a chronni ôl-ddyledion.

Sut mae diweddaru eich cyfrif Credyd Cynhwysol drwy nodi swm newydd eich rhent.

Nodwch bod y fideo hwn yn dyddio’n ôl i 2022 ond mae’r wybodaeth (ar wahân i’r dyddiadau) yn dal yn gywir.

Gwiriwch eich dyddiadur ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol yn rheolaidd oherwydd dylech gael nodyn i’ch atgoffa i gadarnhau eich taliadau rhent. Fel rheol, byddwch yn cael y nodyn ar 3 Ebrill neu’n fuan wedi hynny.

Bydd angen i chi nodi swm eich rhent ar wahân i swm eich taliadau gwasanaeth. Er enghraifft, yn y llythyr hwn, byddech yn nodi £80.93 fel y swm ar gyfer eich rhent a £5.38 fel y swm ar gyfer eich taliadau gwasanaeth (bydd angen i chi adio eich taliadau gwasanaeth i gyd a’u nodi fel un swm).

Dilynwch y camau yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol a chliciwch ar ‘Submit’.  

Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech gael help, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm drwy anfon ebost i [email protected] neu ffonio ateb ar 0800 854 568.

Cyhoeddwyd: 11/04/2023