Woman cupping ears listening

Newidiadau i’n gwasanaethau

Gan fod y cyfnod atal byr yn gorffen ddydd Llun 9 Tachwedd, bydd y gwasanaethau a restrir isod yn gallu ailddechrau o’r dyddiad hwnnw ymlaen.  Byddwn yn parhau i sicrhau diogelwch ein cwsmeriaid, ein timau a’n partneriaid.

Gosod eiddo

  • Bydd trefniadau ar gyfer gweld eiddo, gosod eiddo, trosglwyddo eiddo a chydgyfnewid eiddo yn ailddechrau.

Gwaith atgyweirio

  • Bydd gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys yn ailddechrau, ond mae’n bosibl y bydd peth oedi wrth ei gwblhau gan y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i gyflawni gwaith brys a chlirio ceisiadau sydd wedi cronni am waith nad yw’n waith brys.

Cyffredinol

  • Gallwn ailddechrau ymweld â’n cwsmeriaid ar stepen eu drws neu yn eu cartref os oes angen, gan lynu bob amser wrth ein mesurau diogelwch COVID-19.

Mill Bay Homes

  • Bydd trefniadau ar gyfer gweld eiddo yn ailddechrau a gall unrhyw gartrefi arddangos ailagor.
  • Bydd modd i bobl symud tŷ, a bydd modd cynnal arolygon at ddibenion morgais a gwneud gwaith nad yw’n waith brys i unioni diffygion.

Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin am y Coronafeirws i gael mwy o wybodaeth.