O 1 Ebrill 2024 ymlaen, ni fydd ateb yn derbyn ceisiadau i ymuno â chofrestr tai Cartrefi Dewisedig, wrth i ni geisio gwella’r broses ar gyfer gwneud cais.
Yn awr, bydd angen i unrhyw un sydd am ymuno â’r gofrestr wneud cais drwy Gyngor Sir Penfro. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan Cartrefi Dewisedig.
Bydd pob cais cyfredol yn cael ei drosglwyddo i’r Cyngor o ddydd Llun 1 Ebrill 2024 ymlaen. Felly, os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch cais, bydd gofyn i chi gysylltu’n uniongyrchol â Chyngor Sir Penfro.
Yn rhan o’r broses drosglwyddo, bydd y Cyngor yn adolygu pob cais ar ddyddiad pen-blwydd eich cais. Bydd y Cyngor yn cysylltu â chi’n uniongyrchol ynglŷn â hynny.
Byddwn yn parhau i ddyrannu cartrefi ateb yn y ffordd arferol.
Gallwn barhau i gynnig am gartref ar eich rhan os na allwch wneud hynny drosoch eich hun.
Ar 1 Mawrth, roedd 5,186 o aelwydydd ar gofrestr Cartrefi Dewisedig. Gallwch weld ystadegau am faint o gartrefi a gaiff eu hysbysebu drwy gydol y flwyddyn, a gweld band a dyddiad cofrestru cynigwyr llwyddiannus ar gyfer pob cartref, drwy fynd i wefan Cartrefi Dewisedig a chlicio ar y tab ‘Cwsmeriaid Newydd’.
Os hoffech gael gwybod mwy am argaeledd tai, darllenwch y stori newyddion ganlynol gan Gyngor Sir Penfro: “Gwaith i wella argaeledd tai yn parhau“.