Services update to ateb when working from home

Newidiadau o ran darparu gwasanaethau

Diweddarwyd ar 22/04/2022

Mae bron y cyfan o’n gwasanaethau wedi ailddechrau gan ddilyn canllawiau diogelwch llym er mwyn diogelu ein tîm a’ch diogelu chi, ein cwsmeriaid.

Cyffredinol

  • Mae ein swyddfeydd ar gau ond gallwch gysylltu â ni o hyd ar 01437 763688. Cofiwch fod ein llinellau ffôn yn gallu bod yn brysur iawn ar adegau ac y gallai fod rhywfaint o oedi cyn bod rhywun yn ateb eich galwad. Efallai y byddai’n well gennych anfon ebost i [email protected] er mwyn arbed amser, yn enwedig os nad yw’r mater yn un brys.
  • Hoffem ofyn i bob un o’n cwsmeriaid roi gwybod i ni, cyn bod aelod o’n tîm yn ymweld â nhw, os ydyn nhw neu rywun sy’n byw yn yr un cartref â nhw’n hunanynysu neu’n dioddef o COVID-19.
  • Dylech sicrhau eich bod chi, eich ffrindiau a’ch teulu i gyd yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth bob amser. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Gwaith atgyweirio

  • Mae ein gwasanaeth atgyweirio yn gweithredu’n ôl yr arfer, ond mae gennym lai o staff oherwydd COVID ac oherwydd bod staff yn sâl / yn gorfod hunanynysu.
  • Gallai fod rhywfaint o oedi cyn bod gwaith atgyweirio nad yw’n waith brys yn cael ei gwblhau, wrth i ni roi blaenoriaeth i argyfyngau ac archwiliadau diogelwch tra bydd gennym nifer gyfyngedig o staff.
  • Rydym yn deall y gallech fod yn teimlo’n bryderus o hyd ynghylch y ffaith bod gwaith atgyweirio’n ailddechrau yn eich cartref. Pan fydd aelod o’n tîm neu gontractwr yn ymweld â’ch cartref byddant yn dal i roi gwybod i chi ymlaen llaw am eu hymweliad, byddant yn cadw pellter diogel rhyngoch a byddant yn dilyn gweithdrefnau llym ar gyfer sicrhau hylendid. Gwyliwch ein fideo defnyddiol ynghylch beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn ymweld â’ch cartref.
  • Byddwn yn dal i osgoi gwneud gwaith atgyweirio mewn unrhyw gartref lle mae pobl yn hunanynysu, oni bai mai diben y gwaith yw ymateb i argyfwng. Os felly, byddwn yn parhau i gyflawni’r gwaith yn unol â’n hasesiadau risg a’n canllawiau diogelwch.
  • Dylech ofyn am waith atgyweirio gan ddilyn y drefn arferol ond cyn gwneud hynny dylech wirio a yw’n rhywbeth sy’n gyfrifoldeb i’r landlord neu’n gyfrifoldeb i’r tenant.
  • Rydym wedi ailddechrau ar ein rhaglen o welliannau arfaethedig, allanol a mewnol, ond gallai fod rhywfaint o oedi wrth gyflawni’r gwaith hwnnw tra byddwn yn clirio’r gwaith sydd wedi ôl-gronni ers 2020.

Gosod tai

  • Rydym wedi ailddechrau hysbysebu a gosod cartrefi gan ddilyn canllawiau llym ynghylch diogelwch oherwydd COVID-19. 
  • Mae achosion o gydgyfnewid eiddo wedi ailddechrau. Mae’n bwysig iawn nad ydych yn cyfnewid eich cartref cyn eich bod wedi cael caniatâd i wneud hynny, a bod y gwiriadau swyddogol a’r newidiadau i gyfrifon wedi’u cwblhau. Bydd achosion o gyfnewid cartref heb ganiatâd yn achosi problemau o ran rhent a budd-daliadau ac yn golygu hefyd y byddwch yn cael cyfarwyddyd i gyfnewid eich cartref yn ôl ar unwaith.

Llety Byw’n Annibynnol a Byw’n Annibynnol gyda Gofal Ychwanegol

  • Caniateir i ymwelwyr ymweld â’n llety Byw’n Annibynnol, ond gofynnwn iddynt gofio bod gennym gwsmeriaid a staff bregus yn y cynllun.
  • Dylai ymwelwyr wisgo mwgwd bob amser wrth gerdded trwy ein hardaloedd cyffredin, a diheintio eu dwylo ar y ffordd i mewn i’r adeilad.
  • Gall ymweliadau ddigwydd y tu mewn i eiddo cwsmeriaid gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, neu gorau oll os oes modd iddynt ddigwydd yn yr awyr agored lle’r ydym wedi ychwanegu mwy o seddi.
  • Nid ydym yn caniatáu i ymwelwyr gwrdd yn yr ardaloedd cyffredin. Mannau i’n cwsmeriaid a’n staff yn unig yw’r rhain.
  • Mae’r salon trin gwallt yn DeClare Court a Kensington Court ar agor yn awr ar gyfer apwyntiadau’n unig. Erbyn hyn, caniateir i bobl trin gwallt sy’n teithio i’ch cartref fynd i mewn i eiddo cwsmeriaid unigol

Gweithgareddau ymgysylltu â chymunedau

  • Rydym yn dechrau dychwelyd i weithgareddau ymgysylltu â’r gymuned sy’n digwydd wyneb yn wyneb. Mae’r gweithgareddau yr ydym yn eu cynnal yn digwydd dan ganllawiau Covid er mwyn sicrhau diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid.
  • Mae’n bwysig i ni ein bod yn deall ‘sut hwyl rydym yn ei chael arni’ a ‘beth y gallwn ei wneud i wella’ ond rydym hefyd am sicrhau bod pawb yn ddiogel. Byddwn ar hyn o bryd yn parhau i gynnal cyfarfodydd ein Fforwm Cwsmeriaid a’n Grŵp Cydlynu gyda’n cwsmeriaid yn rhithwir bob mis, a byddem yn croesawu cael cwsmeriaid i gymryd rhan ynddynt. Cysylltwch ag [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.

Cymorth i gwsmeriaid

  • Mae ein Prosiect Lles Cymunedolyn dal i helpu cwsmeriaid i ymgysylltu â’u cymunedau, drwy ddarparu cymorth digidol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar y we neu ffoniwch ni ar 01437 763688.

Ymholiadau ynghylch arian neu renti

  • Mae ein Tîm Atebion Ariannol yma i helpu gydag unrhyw bryderon am rent neu fudd-daliadau. Ffoniwch ni ar 01437 763688 i gael gwybod mwy.