Ni fydd ein Timau a’n Canolfan Gyswllt ar gael o 12pm ddydd Mawrth 24 Rhagfyr tan 10am ddydd Iau 2 Ionawr 2025.
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd ein llinellau ffôn yn cael eu trosglwyddo i ddarparwr gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith, a fydd yn ymdrin ag argyfyngau yn unig. Os nad ydych yn siŵr beth sy’n cael ei ystyried yn argyfwng, gallwch gael gwybod mwy yma.
Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am ddeall.
Mae’n bosibl y bydd ein llinellau ffôn yn brysur iawn pan fyddant yn ailagor am 10am ddydd Iau 2 Ionawr. Os byddwch yn ceisio ein ffonio, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Nodwch: Mae ein derbynfa yn Nhŷ Meyler ar gau yn barhaol. Mae’r oriau agor hyn yn berthnasol i’n Canolfan Gyswllt a’n Timau.
Hoffai pob un ohonom yng Ngrŵp ateb ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!