Paratoi eich cartref ar gyfer y gaeaf: pam y mae’n bwysig gwybod ble mae eich stopfalf

Mae’r gaeaf yn agosáu ac mae yna lawer i’w fwynhau wrth i’r tymhorau newid—o foreau rhewllyd, ffres i nosweithiau clyd gartref. Ond wrth i ni ddod i arfer â’r misoedd oerach, mae’n hanfodol paratoi ein cartrefi ar gyfer yr heriau unigryw a all godi yn ystod y gaeaf.

Mae tywydd rhewllyd yn golygu mwy o berygl y gall pibellau fyrstio, a all olygu difrod i ddodrefn, gwaith atgyweirio costus, a tharfu ar eich bywyd o ddydd i ddydd, a allai gynnwys y posibilrwydd o orfod gadael eich cartref tra byddwn ni’n ei atgyweirio. Gall cymryd rhai camau rhagofalus yn awr helpu i atal difrod a rhoi tawelwch meddwl i chi.

Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae eich stopfalf

Un o’r camau symlaf ond pwysicaf y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich cartref rhag tywydd oer y gaeaf yw cael gafael ar eich stopfalf. Mae’r falf hon yn rheoli prif gyflenwad dŵr eich cartref, ac yn eich galluogi i droi’r cyflenwad dŵr i ffwrdd mewn argyfwng. Gall gweithredu’n gyflym i droi’r dŵr i ffwrdd leihau difrod yn sylweddol os bydd pibell yn byrstio.

Mae Martin Lewis, yr arbenigwr ar arbed arian, yn tynnu sylw at y cam hanfodol hwn: “Stopfalf yw tap eich prif gyflenwad dŵr (y switsh i droi’r dŵr i ffwrdd). Dylai pawb wybod ble mae eu stopfalf, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn pan all pibellau fyrstio oherwydd rhew.” Mae Lewis hefyd yn nodi bod “pibellau wedi rhewi sy’n byrstio yn achosi gwerth dros £9,000 o ddifrod ar gyfartaledd.”

Gwiriwch eich yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref

Wrth baratoi eich cartref, mae hefyd yn adeg dda i fwrw golwg ar eich yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref. Pe bai difrod yn digwydd oherwydd dŵr, gallai’r yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref ddiogelu eich eiddo pwysicaf. I gael rhagor o wybodaeth am werth yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref, darllenwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Pam y mae’n bwysig gwybod ble mae eich stopfalf

Dyma rai o’r prif resymau pam y mae’n hanfodol i chi wybod ble mae eich stopfalf:

  • Atal difrod gan ddŵr
    Gall troi’r stopfalf i ffwrdd yn gyflym atal llifogydd a lleihau difrod pe bai pibell yn byrstio neu pe bai llawer o ddŵr yn gollwng.
  • Atgyweirio’r gwaith plymio
    I atgyweirio’r gwaith plymio neu i osod, er enghraifft, sinciau neu doiledau newydd yn lle hen rai, mae’n rhaid troi’r prif gyflenwad dŵr i ffwrdd yn aml.
  • Argyfyngau
    Os yw plentyn neu anifail anwes yn troi tap ymlaen drwy ddamwain, gall gwybod ble mae troi’r cyflenwad dŵr i ffwrdd helpu i osgoi problemau a achosir pan fydd dŵr yn gorlifo.
  • Gwaith cynnal a chadw a draenio arferol
    Gall draenio eich system blymio cyn y gaeaf helpu i atal dŵr rhag rhewi ac atal pibellau rhag byrstio.
  • Arbed dŵr
    Yn ystod cyfnodau o sychder neu gyfnodau pan fydd yna broblemau dros dro gyda’r cyflenwad dŵr, gall troi’r brif falf i ffwrdd arbed dŵr.

Mae gwybod ble mae eich stopfalf yn golygu y gallwch ymateb yn gyflym mewn amryw sefyllfaoedd, a fydd yn eich helpu i ddiogelu eich cartref, lleihau costau atgyweirio a theimlo’n fwy diogel.

Beth am gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ‘Parod i’r Gaeaf’?

I annog pawb i baratoi, rydym yn lansio cystadleuaeth Parod i’r Gaeaf. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dilyn ein tudalen Facebook a rhannu llun o leoliad eich stopfalf ar ein neges ynglŷn â’r gystadleuaeth, a gallech ennill taleb M&S sy’n werth £100!

Cyhoeddwyd 15/11/2024