Profion radon ar ddod

Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn cynnal profion radon ar dros 600 o gartrefi ateb.

Beth yw radon?

Nwy ymbelydrol nad oes ganddo liw nac arogl ac sy’n bodoli yn naturiol mewn pridd a chreigiau yw radon. Os yw ei lefelau’n uchel, gall fod yn ffactor o bwys sy’n gallu achosi canser yr ysgyfaint a phroblemau iechyd eraill. Fel eich landlord, mae cyfrifoldeb arnom dan ein Dyletswydd Gofal a’r Ddeddf Tai, a byddwn yn cynnal prawf radon ar eich cartref o leiaf bob 10 mlynedd.

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn ysgrifennu at rai ohonoch i roi gwybod bod angen i ni gynnal prawf ar eich cartref. Ar ôl cael y llythyr, byddwch yn cael galwad ffôn gan RPW Radon Wales i drefnu amser cyfleus i ymweld â chi a gosod yr uned profi am radon.

Mae’r fideo hwn yn esbonio ychydig yn rhagor…

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi ein ffonio neu anfon ebost i [email protected]

Cyhoeddwyd: 07/12/2021