Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein Tîm Ôl-osod a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, a arweinir gan Rachel Howard, wedi cael gwobr am Gynnwys Cwsmeriaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol yng nghyswllt Prosiect Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ateb, yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru eleni.
Nod y prosiect arbennig hwn, a fydd yn para tair blynedd, yw gwella effeithlonrwydd ynni a chynorthwyo ein cwsmeriaid ar y llwybr tuag at ddatgarboneiddio a gwireddu cenhadaeth Sero Net ateb.
Cafodd y seremoni wobrwyo a’r cinio mawreddog eu cynnal ar 3 Gorffennaf yng Ngwesty Leonardo yng Nghaerdydd. Dyma a ddywedodd Rachel Howard, Arweinydd ein Tîm Ôl-osod a Gwaith Cynnal a Chadw Arfaethedig, wrth fynegi ei diolch a’i balchder:
“Mae bod ymhlith y 3 uchaf yn y rownd derfynol yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru, am ymgysylltu â’n cwsmeriaid ynghylch mentrau amgylcheddol, yn dipyn o gamp i’r tîm ac yn dangos y gwaith caled sydd wedi’i wneud i sicrhau bod cymaint ag sy’n bosibl o gwsmeriaid yn ymuno ag ateb ar y siwrnai tuag at ddatgarboneiddio.”
Meddai Rachel wedyn, “Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd mwy o waith ar effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio’n cael ei gyflawni yng nghartrefi ateb yn rhan o’r rhaglenni safonol o waith cynnal a chadw arfaethedig. Bydd ymgysylltu â’n cwsmeriaid yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni geisio lleihau’r ynni y mae arnynt ei angen o’r grid i gadw’n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi.”
Llongyfarchiadau i Rachel a’i thîm!
Mae’r wobr hon yn brawf o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd ac o’n hymroddiad i gynnwys cwsmeriaid mewn mentrau amgylcheddol. Mae’n pwysleisio ein cred bod byw’n well yn dechrau gyda lle y gallwn ei alw’n gartref — lle saff, sefydlog a diogel.
Rydym yn hynod o falch o Rachel a’i thîm yn dilyn eu camp ragorol a’u hymdrechion parhaus i gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ein hysbrydoli i barhau i ymdrechu, arloesi a chydweithio er mwyn creu dyfodol gwell i bawb yn unol ag elfen o’n DNA, sef #CyflawniCanlyniadau.
Cofiwch gadw eich llygaid yn agored am ragor o newyddion am ein prosiectau a’n mentrau wrth i ni barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau ein cwsmeriaid a’n cymunedau.