Fyddech chi’n hoffi bod yn berchen ar eich cartref eich hun ond nad oes gennych ddigon wedi’i gynilo ar gyfer blaendal?
Gallai ein cynllun Rhentu i Berchnogi fod yn ddelfrydol i chi. Gallwch rentu eich cartref newydd tra byddwch yn cronni swm i’w ddefnyddio fel blaendal, er mwyn i chi allu prynu’r eiddo ar ôl ei rentu am rhwng 3 a 5 mlynedd.
Mae’n bosibl bod gennym gartref chwaethus i chi yn y lleoliad perffaith!
Byddwn yn ymdrin â cheisiadau ar sail y cyntaf i’r felin – felly peidiwch ag oedi, cliciwch yma i gael gwybod mwy yn awr!
Rhestr wirio sydyn
- Rydych yn gallu fforddio taliadau misol ond nid oes gennych ddigon wedi’i gynilo ar gyfer blaendal
- Rydych am fod yn berchen ar eich cartref eich hun yn y pen draw
- Rhaid bod cyfanswm incwm eich aelwyd yn llai na £60,000
Eiddo Rhentu i Berchnogi
Nid oes unrhyw eiddo ar gael gennym dan y cynllun hwn ar hyn o bryd.
Ewch i’n gwefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau sydd ar gael o ran Perchentyaeth Cost Isel