Sero Net ateb

Mae gan dîm ateb ddiben cyffredin, sef “Creu atebion gwell o ran byw ar gyfer pobl a chymunedau’r gorllewin”.

Mae dileu neu leihau’r carbon y mae ein cartrefi a’n gweithrediadau yn ei gynhyrchu, er mwyn mynd i’r afael â’r her amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn cynhesu, yn allweddol er mwyn i ni gyflawni ein diben. Rydym o’r farn bod cynhyrchu llai o garbon yn dda i bob un ohonom. Bydd yn helpu i leihau defnydd cwsmeriaid o ynni ac yn sicrhau bod yr amgylchedd yn lle glanach a mwy cynaliadwy i’n cymunedau fyw ynddo.  

Bydd ein hatebion o ran byw, sef atebion ‘sero net ateb’, yn hollbwysig o safbwynt byw’n well yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Er mwyn i ni gael ein hystyried yn sero net erbyn 2050, mae angen i ni ddechrau cynllunio a buddsoddi’n awr. Dyna pam yr ydym wedi nodi 3 chynllun mawr a fydd yn gweld rhaglenni gwaith a mentrau’n dechrau dileu neu leihau’r carbon a gaiff ei gynhyrchu.

Ni fydd hyn yn hawdd, a bydd yn cymryd amser a buddsoddiad dros gyfnod o flynyddoedd lawer i roi trefn ar bopeth. Cynllun B, sef cartrefi presennol ein cwsmeriaid, fydd yr her fwyaf gan y bydd angen gwneud newidiadau mawr i lawer o’n cartrefi er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau heddiw o ran ynni ac o ran yr amgylchedd.

Felly, beth yr ydym yn bwriadu ei gyflawni yng Nghynllun B i wneud yn siŵr bod ein cartrefi presennol yn gost-effeithiol i’w gwresogi a’u rhedeg yn y dyfodol? Dyma rai rhaglenni sydd ar y gweill neu sydd ar fin dechrau:

  • Pasborts Ynni Cartref – bydd gan bob un o gartrefi ateb ‘basbort ynni’ a fydd yn nodi beth y mae angen ei wneud i sicrhau bod eich cartref yn cyrraedd safonau modern o ran ynni.
  • Technoleg Glyfar ar gyfer Ynni – bydd gan gartrefi dechnoleg well ar gyfer rhoi gwybod i’n cwsmeriaid a rhoi gwybod i ni a yw cartrefi’n perfformio yn effeithiol. Os na fyddant yn perfformio’n effeithiol, byddwn yn gweithredu i’ch helpu.
  • Rhaglen Cartrefi Mwy Gwyrdd – byddwn yn cyflawni gwaith ar gragen allanol ein cartrefi er mwyn atal gwres rhag gollwng ohonynt, a lleihau cost eu gwresogi felly hefyd.
  • Rhaglen Ynni Adnewyddadwy – drwy ddefnyddio technoleg megis ynni’r haul, storio ynni mewn batris yn y cartref, a defnyddio pympiau gwres, byddwn yn glanhau’r modd y caiff ynni ei ddefnyddio yn y cartref.
  • Cymorth o ran Ynni i’n Cwsmeriaid – gyda’r newidiadau a’r buddsoddiad a gynllunnir, mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn rhan o’r broses, eu bod yn cael cymorth a’u bod yn teimlo’n hyderus ynghylch sut y bydd ein cartrefi i gyd yn gweithredu yn y dyfodol. O’n rhan ni, bydd hynny’n golygu gwrando, deall a llunio’r ffordd orau o roi cyngor, hyfforddiant a chymorth er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael y budd mwyaf o’u cartrefi.

Mae ein timau’n dechrau llunio a chyflawni’r rhaglenni uchod, ond gyda 3,000+ o gartrefi i’w hystyried bydd yn cymryd ychydig o amser i ni gyflwyno ein cyfres o atebion sero net o ran byw i bawb.

Fel bob amser, os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â’r tîm. Mae o fudd i bob un ohonom bod atebion sero net ateb o ran byw yn llwyddo. Felly, cadwch eich llygaid yn agored am ragor o wybodaeth ac am fanylion ynghylch sut y gallwch gymryd rhan.

Newyddion diweddar

  • Deunydd inswleiddio newydd ar waliau allanol yn lansio dechrau siwrnai ateb o ran Sero Net – Hydref 2023
  • ateb yn penodi contractwr Gwres a Nwy newydd – gosod systemau mwy gwyrdd, gwella cartrefi – Medi 2023
  • ateb yn lansio iOPT – technoleg newydd sy’n helpu i ddysgu sut y gall cartrefi fod yn fwy gwyrdd – Gorffennaf 2023

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →