Sesiwn Grŵp Cydlynu e2i

Cyfle misol, gwych i drafod materion gyda chwsmeriaid a staff ateb ac i ddweud eich dweud

Mae e2i bellach yn cynnal ei sesiynau grwpiau cwsmeriaid unwaith eto, ond bydd hynny’n digwydd ar-lein yn awr ar blatfform o’r enw Teams. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar.

Caiff sesiwn ar-lein nesaf y Grŵp Cydlynu ei chynnal ddydd Mawrth 13 Hydref am 10:00 a bydd yn para tua hanner awr.

Byddwn yn ystyried y camau gwella ar gyfer Rheoli Ystadau, a bennwyd ym mis Mawrth 2020, ac yn cael diweddariadau gan y staff ynghylch sut mae pethau’n dod yn eu blaen.

Gall holl staff a chwsmeriaid ateb ymuno â’r grwpiau hyn.

Cysylltwch ag Ali Evans:
· 01437 774766
· 07500 446611
· [email protected]

Os yw ’n bwysig i chi , yna mae ’n bwysig i ni

#niywateb