Sesiwn Grŵp Cydlynu E2i

Mae E2i mewn sefyllfa erbyn hyn i ailddechrau ei sesiynau grwpiau cwsmeriaid, ond bydd hynny’n digwydd ar-lein yn awr ar blatfform o’r enw Teams. Bydd ateb yn eich helpu i gysylltu â ni trwy Teams. Cofiwch holi, hyd yn oed os nad oes gennych gyfarpar.  

Caiff sesiwn nesaf y Grŵp Cydlynu ei chynnal ddydd Mawrth 15 Medi am 10:00 a bydd yn para tua awr.  

  • Yn ystod yr hanner awr cyntaf, byddwn yn edrych yn ôl ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2019 ynghylch Gwaith Atgyweirio o Ddydd i Ddydd, er mwyn gweld pa gynnydd sy’n cael ei wneud o safbwynt y pwyntiau gweithredu a nodwyd yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw â’n cwsmeriaid. 
  • Yn ystod yr hanner awr a fydd yn dilyn, byddwn yn penderfynu beth fydd yn cael sylw yn ein harolwg o gwsmeriaid ym mis Hydref, a byddwn yn mynd ati i’w drefnu.

Gall holl staff a chwsmeriaid ateb ymuno â’r grwpiau hyn. 

Cysylltwch ag AliEvans: 01437 774766 / 07500 446611 /[email protected]  

Mae croeso i chi ddod i’r naill sesiwn neu’r llall, neu i’r ddwy sesiwn, er mwyn cael cyfle i ddweud eich dweud.  

Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni 

#weareateb