Siarad â ni …

Ydynt – maent yn eu hôl, ac unwaith eto eleni maent yn ddigwyddiadau wyneb yn wyneb:

Bydd 30 o leoedd ym mhob un o’r tri lleoliad a bydd cinio neu swper yn cael ei weini, gyda choffi a chacennau i ddilyn. Felly, bydd y digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn yn llawn yn fuan. Hwn yw eich cyfle i drafod ag aelodau allweddol o staff ateb beth yr hoffech ei weld yn gwella yn ateb – bydd cyflwyniadau gan y staff a bydd trafodaethau mewn grwpiau bach. Byddwch yn clywed gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, Mark Lewis, a/neu Brif Weithredwr ateb, Nick Hampshire, yn ogystal ag amryw aelodau eraill o staff.

  • Aberdaugleddau: Theatr y Torch – 4 Mai 2023 – 12pm i 3.30pm
  • Arberth: Neuadd y Frenhines – 10 Mai 2023 – 12pm i 3.30pm
  • Hwlffordd: Y Clwb Criced – 18 Mai 2022 – 6pm i 9.30pm

Mae’r tri lleoliad yn hygyrch, ond cofiwch drafod eich anghenion ag ateb wrth gadw lle.

Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Mae’n hanfodol eich bod yn cadw eich lle drwy gysylltu â ni er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer eich holl anghenion. I gadw eich lle a rhoi gwybod i ni am unrhyw anghenion dietegol neu anghenion eraill, gan gynnwys ceisiadau am help gyda thrafnidiaeth, cysylltwch â:

Ali Evans 01437 774766 /[email protected]

Sue Mackie 01437 774769 / [email protected]

Drwy fynychu rydych yn rhoi caniatâd i luniau a fideos a fydd yn cael eu tynnu a’u recordio yn ystod y digwyddiad, ac a allai eich cynnwys chi, gael eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan ateb.

Cynhadledd Cwsmeriaid ateb 2023 – Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni

Diweddarwyd 28/04/23