Storm Eunice – diweddariad am 11:25am (ddydd Gwener 18 Chwefror 2022)

Oherwydd y tywydd heriol sy’n parhau ar draws Sir Benfro, rydym wedi penderfynu parhau i gyflawni gwaith atgyweirio brys yn unig y prynhawn yma.

Bydd ein canolfan gyswllt mewn cysylltiad â chi i aildrefnu apwyntiadau cyn gynted ag sy’n bosibl. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.

Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Penfro yn cynghori pawb i:

  • aros gartref ac osgoi teithio oni bai bod hynny’n hollol hanfodol.
  • cadw draw o’r arfordir gan fod yr amodau yno’n dal yn beryglus.

Mae pont Cleddau ar gau i bob cerbyd ar hyn o bryd. (11:25am)

Cymerwch ofal, bawb, a chadwch yn ddiogel.

Cyhoeddwyd: 18/02/2022