Storm Eunice – Gwybodaeth bwysig am wasanaethau ateb

Mae disgwyl i Storm Eunice daro Sir Benfro yn ystod oriau mân bore dydd Gwener (o 1am ymlaen) ac mae rhybudd oren wedi’i gyhoeddi ar gyfer y rhan fwyaf o’r dydd.

Mae rhybudd coch (sy’n golygu ‘perygl i fywyd’) wedi’i gyhoeddi ar gyfer yr ardal rhwng Abertawe a Chas-gwent ac mae’n bosibl y gallai’r rhybudd ar gyfer Sir Benfro hefyd gael ei newid i goch yn nes at yr amser.

Byddwn yma i gynorthwyo ein cwsmeriaid gystal ag y gallwn mewn tywydd garw iawn, ond dylech nodi’r canlynol:

  • Byddwn yn aildrefnu ymweliadau â chartrefi ac unrhyw waith atgyweirio nad yw’n waith brys, hyd at ganol dydd yfory (12pm), a dim ond i argyfyngau y byddwn yn ymateb. Gallai gymryd amser i ni eich cyrraedd oherwydd y tywydd garw a/neu oherwydd bod ffyrdd a phontydd ar gau, felly byddwch yn amyneddgar a byddwn gyda chi cyn gynted ag y gallwn.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn cael anhawster cysylltu â ni oherwydd problemau gyda’r rhyngrwyd/toriadau trydan, felly byddwch yn amyneddgar a byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag y gallwn. Os na allwch gysylltu â ni dros y ffôn, anfonwch ebost i [email protected]
  • Os oes difrod neu risg sy’n achosi perygl yn syth i fywyd, cysylltwch â’r gwasanaethau brys.
  • Rydym yn eich cynghori’n daer i osgoi holl ardaloedd awyr agored ateb sy’n cael eu rhannu â phobl eraill, megis balconïau a gerddi/tir cyffredin, oherwydd y perygl y gallai coed gwympo ac y gallai malurion gael eu chwythu gan y gwynt.

Gofalwch eich bod yn cadw’n ddiogel, cadwch lygad ar eich newyddion lleol a diweddariadau’r Swyddfa Dywydd a dilynwch y cyngor diweddaraf.

Wyddech chi: Pe bai’r hyn sydd yn eich cartref yn cael ei ddifrodi, er enghraifft gan lifogydd neu dân, chi fyddai’n gyfrifol am brynu pethau newydd ar gyfer eich cartref. Dyna pam yr ydym bob amser yn argymell eich bod yn yswirio cynnwys eich cartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ddarllen am y cynllun My Home Contents Insurance.

Cyhoeddwyd: 17/02/2022