Sut mae ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn trawsnewid cartrefi ac yn newid bywydau – Preseli Court

Yn ateb, rydym o’r farn bod pawb yn haeddu cael cartref cyffyrddus a chynnes sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ansawdd ein cartrefi a gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymunedau. Un o’r ffyrdd yr ydym yn gwneud hynny yw drwy ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio – sef prosiect tair blynedd sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol, lleihau ôl troed carbon a helpu cwsmeriaid i arbed arian ar gostau ynni.

Yn 2024, gwnaethom gwblhau gwaith ar 68 o gartrefi, a Preseli Court yw trydedd ystâd ac ystâd olaf y flwyddyn. Gwnaeth saith cartref yno elwa o waith gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol a phaneli solar ffotofoltäig, sy’n helpu cwsmeriaid ateb i fwynhau cartrefi mwy cyffyrddus a biliau ynni rhatach.

Ond nid ni yn unig sy’n dweud hynny – dyma oedd gan un o’n cwsmeriaid i’w ddweud.

Straeon Go Iawn, Effaith Go Iawn

Dewch i gwrdd â Roger o Preseli Court

Mae Roger yn byw yn Preseli Court a bu’n ddigon caredig i rannu ei brofiad o gael y gwaith wedi’i wneud er bod ganddo nam ar ei olwg i’w reoli.

“Ymhlith y manteision rwyf wedi sylwi arnynt y mae’r ffaith nad oes drafft yn dod drwy’r ffenestri mwyach a bod y gwres canolog yn fwy effeithiol o lawer. Mae fy ystafell fyw’n gynnes braf ac mae gweddill y tŷ yn gyffyrddus hefyd. Yn gyffredinol, mae tu mewn y tŷ’n gynhesach o lawer.”

Dywedodd Roger wrthym fod y gwaith o osod y paneli solar wedi mynd rhagddo’n hwylus ac yn ddiffwdan, ond bod y gwaith inswleiddio ychydig yn fwy swnllyd ac wedi achosi mwy o annibendod – ond gofalodd y tîm yn dda amdano.

“Roedd y bechgyn a oedd yn cyflawni’r gwaith yn wych. Roeddent bob amser yn gwrtais, yn parchu fy eiddo ac yn ymwybodol iawn o fy sefyllfa. Roeddent bob amser yn dweud helô ac yn fy rhybuddio am unrhyw beryglon. Roeddent hefyd yn clirio’n drylwyr iawn wedyn.”

Roedd yna heriau, wrth gwrs.

“Y brif broblem oedd y sŵn, ac ‘Addewid Sir Benfro’,” meddai Roger fel jôc. “Weithiau, ar ôl dweud y bydden nhw yma ar ddiwrnod penodol, fyddai dim sôn am neb! Ond o edrych yn ôl, rwy’n deall bod yn rhaid iddynt weithio ar fwy nag un prosiect a bod yn hyblyg. O ystyried faint o waith wnaethon nhw a faint o amser gymerodd y gwaith, roedd y cyfan yn werth y drafferth.”

A fyddai Roger yn argymell y gwaith i bobl eraill?

“Yn bendant. Mae braidd yn anghyfleus am gyfnod byr, ond mae’r manteision yn fwy o lawer na’r anfanteision. Rhaid i chi feddwl am y dyfodol, a faint o arian y byddwch yn ei arbed ar ynni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ar ôl i’r gwaith gael ei orffen, d’ych chi ddim ar eich colled o gwbl. Mae’n werth yr holl ymdrech!”

Roedd Roger mor gadarnhaol. Gwnaeth hyd yn oed gynnig siarad ag unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn â chael y gwaith wedi’i wneud (dyna beth yw gŵr bonheddig!). Fyddwn ni ddim yn rhoi ei rif ffôn i neb ond rydym yn ddiolchgar i Roger am rannu ei brofiad.

Sut mae ein Rhaglen Ôl-osod yn gwneud gwahaniaeth

Dyma sydd wedi’i gyflawni drwy’r buddsoddiad pwysig hwn yn ein cartrefi a’n cymunedau:

Yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon
Gyda deunydd inswleiddio ar waliau allanol, mae cartrefi’n colli llai o wres yn y gaeaf ac yn aros yn oerach yn yr haf, sy’n helpu cwsmeriaid i gadw’n gyffyrddus drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio llai o ynni ar yr un pryd.

🌍 Yn well i’r amgylchedd
Mae defnyddio llai o ynni’n golygu ôl troed carbon sy’n llai. Mae’r gwaith hwn yn hybu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a’n hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

💰 Yn lleihau costau ynni
Mae ar gartrefi effeithlon angen llai o wres, sy’n gallu helpu i gadw biliau ynni’n fwy fforddiadwy, yn enwedig pan fo pob ceiniog yn cyfrif.

🏡 Yn edrych yn fwy newydd a ffres
Yn ogystal â sicrhau bod cartrefi’n gynhesach ac yn fwy effeithlon, mae deunydd inswleiddio ar waliau allanol yn golygu bod tu allan adeiladau’n edrych yn fodern ac yn lân, sydd o fudd i breswylwyr ac sy’n harddu ein cymunedau.

🌞 Ynni solar adnewyddadwy
Gyda phaneli solar ffotofoltäig wedi’u gosod, gall preswylwyr fanteisio ar ynni glân o’r haul, gan leihau eu dibyniaeth ar y grid a lleihau eu costau trydan.

🏘️ Cymunedau cryfach
Drwy fuddsoddi yn ein cartrefi, rydym yn buddsoddi mewn pobl ac yn creu cartrefi lle gall unigolion a theuluoedd deimlo’n saff ac yn ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Edrych i’r dyfodol

Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni mor belled. Yn ystod 2024, gwnaeth 68 o gartrefi elwa o’n Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Ond rydym am wneud mwy! Mae gwaith eisoes ar y gweill yn Solfach, ac rydym yn bwriadu gwella 50 o gartrefi eraill yn ystod 2025.

Mae’r cyfan yn rhan o’n cenhadaeth i sicrhau bod ein cartrefi yn addas ar gyfer y dyfodol a’u bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, a bod gan bob eiddo a reolir sgôr SAP sy’n o leiaf 75.

Yn ateb, rydym am wneud mwy na darparu cartrefi i bobl – rydym hefyd am greu cartrefi lle gall pobl ffynnu.

Cyhoeddwyd: 14/03/2025