ateb yn ymuno â’r sgwrs am Dai a Arweinir gan y Gymuned ar gyfer cymunedau.

Yn ddiweddar mynychodd ein Rheolwr Twf a Phartneriaeth, Nick Garrod, ddigwyddiad addysgiadol a gynhaliwyd gan PLANED a Cwmpas i drafod dyfodol Tai a Arweinir gan y Gymuned ar draws Sir Benfro a’r gorllewin.

Meddai Nick, “Roedd yn gyfle gwych i gysylltu â phobl eraill sy’n frwdfrydig ynghylch creu cartrefi fforddiadwy a gaiff eu sbarduno gan y gymuned, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld prosiect Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Nolton a’r Garn yn cael sylw, a oedd yn brosiect ysbrydoledig. Mae’r fenter yn bwriadu datblygu 19 o gartrefi fforddiadwy, carbon isel ar gyfer pobl leol, ac mae ateb yn falch o allu cynorthwyo’r prosiect hwnnw ar ei hynt.”

Roedd y brwdfrydedd a oedd yn yr ystafell yn amlwg, ac roedd llawer o gymunedau’n awyddus i archwilio sut y gallent sefydlu eu prosiectau tai eu hunain. Mae ateb wedi ymrwymo i helpu i wireddu’r syniadau hynny, boed drwy gynnig arbenigedd, cael gafael ar gyfleoedd o ran cyllid, neu ddarparu cartrefi newydd sy’n diwallu anghenion lleol.

Rydym wedi clymu sleidiau’r digwyddiad [yma] er mwyn taflu mwy o oleuni ar opsiynau o ran cyllid, modelau datblygu, a’r broses o greu cynllun tai llwyddiannus a arweinir gan y gymuned.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau prosiect Tai a Arweinir gan y Gymuned yn eich ardal chi, mae croeso i chi gysylltu â Jonathan Hughes yn Cwmpas neu Sarah Foster yn PLANED, a fydd yn gallu eich helpu.

Published: 28/02/2025