fillin in form on mobile phone

Taliad o £150 tuag at gostau byw – ydych chi wedi gwneud cais amdano?

Dim ond pythefnos sydd i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y taliad o £150 tuag at gostau byw, a byddem yn annog pawb i wirio a ydynt yn gymwys ac i wneud cais.

Rhaid bod cwsmeriaid mewn eiddo sydd ym mand A i D neu’u bod yn cael gostyngiad ar eu treth gyngor, sy’n dibynnu ar brawf modd, a hynny ar 15.2.22.

Mae rhagor o fanylion am y cynllun ynghyd â’r ddolen gyswllt ar gyfer gwneud cais i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Os oes angen help arnoch i wneud cais, mae croeso i chi gysylltu â thîm ateb [email protected] neu 0800 854 568

Yr amser a’r dyddiad cau yw 5pm ar 30.9.22, felly mae’r amser sydd ar ôl i wneud cais yn mynd yn brin ac nid ydym am weld cwsmeriaid yn colli’r cyfle.

Mae’r taliad tuag at gostau byw yn agored i bawb sydd yn y bandiau uchod ar gyfer eu treth gyngor neu sy’n cael gostyngiad ar eu treth gyngor. Nid tenantiaid ateb neu denantiaid y cyngor yw’r unig bobl sy’n gymwys i’w gael.

Rhannwch y neges!

Cyhoeddwyd: 14/09/2022