Taliadau Cynllun Cymorth Costau Byw yn dod yn fuan

Dylai taliad o £150 gan Gyngor Sir Penfro gyrraedd eich cyfrifon yn fuan wrth i’r Cyngor ddosbarthu taliadau’r Cynllun Cymorth Costau Byw i bobl sy’n talu eu Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Os nad ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, cadwch eich llygaid ar agor am lythyr oddi wrth y Cyngor, a fydd yn cynnwys manylion am sut mae cofrestru.

Meddai Cheryl, ein Swyddog Ynni Cartref,

“Mae’r taliadau hyn yn gymorth sydd i’w groesawu’n fawr a byddant yn rhywfaint o help i ymdopi â chostau cynyddol ynni.

“Byddwn yn argymell bod pobl yn defnyddio’r arian i helpu i dalu eu biliau ynni. Mae bob amser yn ddefnyddiol bod mewn credyd, ac os oes gennych fesurydd rhagdalu byddai’n syniad gwych rhoi’r arian yn eich cyfrif. Byddwch yn talu cyfradd heddiw am eich trydan, ond mae’n debyg y bydd y gyfradd yn codi eto yn ôl pob sôn.”

Os ydych yn ei chael yn anodd talu eich biliau ynni, cysylltwch ag ateb i gael adolygiad ynni cartref. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim a ariennir gan ateb a’r Cynllun Gwneud Iawn o ran Ynni – sy’n ceisio helpu pobl ar draws y wlad i arbed ynni ac arbed arian.

Ffoniwch ni ar 01437 763688 neu anfonwch ebost i [email protected].

Cyhoeddwyd: 20/05/2022