Taliadau rhent blynyddol ateb: Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud…

Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fydd ateb yn dechrau ystyried ei daliadau rhent blynyddol gyda’r bwriad o godi’r rhent ym mis Ebrill 2022.

Bydd ein cwsmeriaid yn gwybod bod ateb wedi mabwysiadu’r fethodoleg Rhent Byw er mwyn sicrhau bod ein rhenti’n fforddiadwy. Mae Rhent Byw yn sefydlu cysylltiad rhwng rhenti a gallu cwsmeriaid i’w talu. Nod y fethodoleg yw sicrhau bod ein rhenti’n wirioneddol fforddiadwy i gwsmeriaid sydd ag incwm isel. Cafodd y fethodoleg ei chyhoeddi gan Sefydliad Joseph Rowntree a’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn 2015. Cafodd ei llunio ar y sail nad yw’n fforddiadwy i denantiaid wario mwy nag un rhan o dair o’u hincwm net ar gostau eu cartref. Ein nod yw sicrhau, yn y rhan fwyaf o achosion, na ddylai’r rhent yr ydych yn ei dalu am eich cartref fod yn fwy na 28% o gyfartaledd incwm eich cartref, neu 33% os caiff taliadau gwasanaeth eu cynnwys.

Rydym ym mlwyddyn 3 setliad 5 mlynedd ar gyfer rhenti, a gytunwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n ei gwneud yn bosibl cynyddu rhenti hyd at gyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ynghyd â 1% (ar sail ffigurau mis Medi ar gyfer y Mynegai hwnnw). Fodd bynnag, o gofio bod chwyddiant wedi peri i gyfradd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr godi i 3.1% ym mis Medi, mae Llywodraeth Cymru wedi cynghori landlordiaid i gynyddu eu rhenti ar sail y Mynegai yn unig. Felly, rydym yn cynnig cynyddu’r rhan fwyaf o’n rhenti 3.1% o fis Ebrill ymlaen, gan sicrhau ar yr un pryd bod pob rhent yn aros o fewn trothwy’r Rhent Byw.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ateb wedi cynyddu ei renti ar sail y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig ac wedi rhewi rhai rhenti, ac nid yw wedi cynyddu ei renti hyd at yr uchafswm a ganiateir dan setliad Llywodraeth Cymru. Gwnaethom hynny oherwydd ein bod yn deall ei bod yn gyfnod anodd i bobl ac oherwydd nad yw codiadau rhent erioed wedi bod yn boblogaidd. Fodd bynnag, bydd codi rhenti 3.1% o fis Ebrill ymlaen a dilyn yr un egwyddor, sef cynyddu rhenti ar sail y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn unig, yn ein galluogi i barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi. Bydd hefyd yn ein galluogi i barhau i ddarparu pob un o’n gwasanaethau ychwanegol er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid a chymunedau ac adeiladu cartrefi newydd.

Byddem yn gwerthfawrogi cael eich barn, eich sylwadau neu’ch awgrymiadau ynglŷn â’n cynigion.

Gallwch anfon unrhyw sylwadau drwy ebost at ein Cydlynydd Ymgysylltu, Ailinor Evans, [email protected]

 

Dylech anfon unrhyw sylwadau erbyn dydd Mercher 25 Ionawr 2022.

Cyhoeddwyd 13/01/22