Oherwydd problem fyd-eang sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni, bydd taliadau debyd uniongyrchol a oedd i fod i ddigwydd ddydd Iau 6 Mawrth a dydd Gwener 7 Mawrth yn cael eu cymryd yn awr ddydd Llun 10 Mawrth. Mae’n ddrwg iawn gennym am unrhyw anghyfleustra neu ddryswch y gallai hynny ei achosi i chi.
Bydd y broblem yn effeithio ar nifer fach o gwsmeriaid yn unig (llai na 10%), ond os ydych yn poeni am dalu eich rhent dylech siarad â’ch Cydlynydd Tai cyn gynted ag y bo modd – rydym yma i helpu. 💙
Gallwch lenwi ffurflen i ofyn i rywun eich ffonio’n ôl neu gallwch anfon neges ebost i [email protected]