22/02/23 11:00 – 14:00; Neuadd Pater, Lewis St, Doc Penfro SA72 6DH
23/02/23 14:00 – 17:00; Neuadd Les Pontfadlen, Pembroke Rd, Hwlffordd SA61 1JW
TE GYDAG ATEB
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed fod yng nghwmni rhywun sy’n 16 oed neu’n hŷn.
Dewch i ymuno â ni am bryd ysgafn o fwyd, rhad ac am ddim, a chyfle i siarad â staff ateb a’n partneriaid am:
- Ynni
- Budd-daliadau a chyllidebau
- Cymorth o ran data digidol
- Cludiant cymunedol
- Cyflogaeth a hyfforddiant
- Eich tenantiaeth
- Eich cymuned
Bydd yna weithgareddau i blant: lle chwarae meddal a phwll peli, gemau bwrdd a gemau cardiau, Jenga mawr a dominos mawr.
At hynny, bydd Gweithdai Coginio Prydau Iach a Rhad yn rhan o’r ddau ddigwyddiad hyn:
Bydd y sesiwn goginio 1af yn dechrau am 11:30 yn Neuadd Pater
Bydd yr 2il sesiwn goginio yn dechrau am 12:45 yn Neuadd Pater
Bydd y sesiwn goginio 1af yn dechrau am 2:30pm yn Neuadd Les Pontfadlen
Bydd yr 2il sesiwn goginio yn dechrau am 3:45 yn Neuadd Les Pontfadlen
Bydd y cynhwysion i gyd yn cael eu darparu’n rhad ac am ddim; dewch â’ch llestr eich hun os ydych yn teimlo yr hoffech fynd â’r bwyd y byddwch wedi’i goginio adref gyda chi.
Bydd pob sesiwn goginio yn para 45 munud
Rhaid cadw lle ymlaen llaw yn y sesiynau coginio. I gadw lle, ffoniwch y tîm Datblygu Cymunedol neu anfonwch ebost neu neges destun iddo, gan nodi eich enw; llinell gyntaf eich cyfeiriad; pa sesiwn yr hoffech gadw lle ynddi; faint o bobl fydd yn dod a beth yw eu hoedran, os ydynt dan 16 oed.
Os hoffech ddod i’r digwyddiad heb gymryd rhan yn y sesiwn goginio, mae croeso i chi fynychu ac ni fydd angen i chi gadw lle – gallwch ddod heb gysylltu ymlaen llaw.
Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i gwsmeriaid ateb ac i bobl sydd â chysylltiad uniongyrchol â nhw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl am y ddau ddigwyddiad hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni’n uniongyrchol gan ddefnyddio unrhyw un o’r manylion cyswllt a nodir isod.
Cysylltwch â’r tîm Datblygu Cymunedol i gadw eich lle yn y sesiwn goginio neu i ofyn unrhyw gwestiynau: 01437 774766 / 07500 446611 / [email protected]
Caiff y digwyddiadau hyn eu trefnu gan ateb
Os yw’n bwysig i chi, yna mae’n bwysig i ni