Tir wedi’i brynu yn Jameston

Yn yr heulwen brynhawn dydd Mercher, aeth rhai aelodau o’n tîm Datblygu i gwrdd â’r tirfeddiannwr Mr Thomas wedi i ni brynu ein safle newydd yn Jameston oddi wrtho ar 21 Rhagfyr 2023.  

Mae’r safle gyferbyn â Bush Terrace ac mae’n rhan o ddatblygiad ehangach a fydd yn cynnwys 38 o gartrefi newydd, gydag ateb yn caffael y tir ar gyfer 11 eiddo dan rwymedigaethau’r caniatâd cynllunio ehangach ar gyfer y datblygiad. Rydym wrthi’n ddiwyd yn cwblhau ein cynlluniau ar gyfer y cartrefi newydd ac rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion yn fuan. 

I gael gwybod pa gartrefi eraill yr ydym yn eu hadeiladu ar draws y gorllewin, ewch i’n tudalen am ddatblygiadau

Published: 22/01/2024