Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn …

Wyddech chi, fel un o gwsmeriaid ateb, eich bod yn aelod o TPAS Cymru (y Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid) yn awtomatig a’ch bod yn gymwys i fynychu llawer o ddigwyddiadau TPAS! Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau COVID. Maent yn gyfle gwych i gwsmeriaid archwilio, rhannu a thrafod pynciau sy’n ymwneud â thenantiaid a landlordiaid. Byddwch yn cael cyfle i drafod eich profiadau o unrhyw weithgareddau tenant/landlord yr ydych wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar a/neu sydd ar y gweill yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, ac unrhyw heriau a llwyddiannau sy’n ymwneud â nhw. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth newydd.  https://www.tpas.cymru/events

Mae’r digwyddiadau hyn i gyd ar gael yn rhad ac am ddim i bob un o gwsmeriaid ateb. Os byddwch yn dod ar draws un o ddigwyddiadau TPAS yr hoffech fynd iddo ond nad yw ar gael yn rhad ac am ddim, mae croeso i chi gysylltu ag [email protected] a fydd yn trefnu bod eich ffïoedd yn cael eu talu.

Mae’r digwyddiadau hyn yn aml yn boblogaidd iawn – mae’n bosibl mai nifer gyfyngedig o leoedd fydd ar gael – cofiwch gadw eich lle’n gynnar!

Rhowch wybod i ni os hoffech fynd i ddigwyddiad ond nad oes gennych yr offer iawn, e.e. gliniadur/cyfrifiadur/llechen/ffôn. Gall ateb a’i sefydliadau partner roi benthyg offer TG i chi.

Cyhoeddwyd 12/02/21