Dewch i gwrdd â Rhys. Dechreuodd fel Prentis Cynnal a Chadw yn ôl yn 2019, ac mae wedi mynd yn ei flaen yn awr i fod yn Brentis Trydanol.
Beth wnaeth eich denu at brentisiaeth gydag ateb?
“Waw, mae llawer o amser fel pe bai wedi pasio ers hynny. Cefais fy nenu gan y cyfle i ddysgu a gwella fy sgiliau. Roeddwn wedi clywed pethau da am ateb gan bobl eraill a oedd wedi dilyn prentisiaethau. Ond rhaid i fi gyfaddef bod y syniad o ennill cyflog da wrth ennill cymhwyster yn ddeniadol iawn hefyd!”
Felly, beth ddigwyddodd yn ystod eich siwrnai chi?
“Dim byd dramatig. Fe wnes i fwynhau’r Brentisiaeth Cynnal a Chadw a dysgu llawer o sgiliau newydd – sgiliau rwy’n dal i’w defnyddio heddiw. Roedd yn gyfle gwirioneddol dda i roi cynnig ar lawer o wahanol bethau. Ond yn y bôn, roedd gen i ddiddordeb erioed mewn bod yn drydanwr. Rwy’n hoffi datrys problemau, ac fel trydanwr rydych yn gwneud llawer iawn o hynny! Pan gododd y cyfle, felly, cefais sgwrs â fy ngoruchwyliwr a oedd yn fwy na pharod i’m helpu i newid cyfeiriad.
“Dyna sy’n dda am ateb, yn fy marn i. Dim ond i chi ddangos eich bod yn barod i ddysgu a gwneud eich gorau, fe wnân nhw eu gorau i’ch helpu chi hefyd”.
“Fe wnes i ddechrau ar y Brentisiaeth Drydanol ym mis Mawrth 2023; rwyf wedi bod yn mynd i’r coleg am ddiwrnod yr wythnos ac wedi bod yn treulio’r pedwar diwrnod arall yn gweithio i ateb. Rwyf wrth fy modd â’r brentisiaeth ac rwyf wedi cyrraedd fy nghymhwyster Lefel 3 yn barod, Gyda lwc, rwy’n gobeithio y byddaf wedi cymhwyso’n llawn erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.”
A fyddech yn argymell prentisiaeth i eraill?
“Byddwn, yn bendant. Rhaid i fi ddweud hynny, mae’n siŵr, o ystyried fy mod i’n dilyn fy ail brentisiaeth erbyn hyn! Ond o ddifri, mae prentisiaethau’n ffordd wych o ddysgu crefft ac o ennill arian yr un pryd. Mae mynd i’r coleg wedi bod yn wirioneddol dda hefyd. Rwy’n credu bod y cyfuniad o ddysgu ychydig yn y coleg a dysgu wrth weithio hefyd yn golygu fy mod wedi symud ymlaen yn gynt o lawer na phe bawn i’n gwneud y cyfan mewn ystafell ddosbarth.”
Diolch, Rhys, a phob lwc ar ddod yn drydanwr cymwys. #CaelYMaenIrWal