Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau | Sean

Mae stori Sean ychydig yn wahanol, oherwydd newidiodd o yrfa ym maes manwerthu yn nes ymlaen yn ei fywyd.

“Mae’n rhywbeth yr wyf wastad wedi dymuno ei wneud. Roeddwn yn mwynhau gweithio gydag offer a gwneud gwaith ymarferol erioed. Felly, pan welodd fy ngwraig y cyfle i gael prentisiaeth gydag ateb, ac ar ôl cael ychydig o anogaeth ganddi, penderfynais fynd amdani.

“Rhaid i fi gyfaddef bod dod yn brentis yn 30 oed yn sioc i’r system, braidd. Rhaid mai’r rheswm dros aros tan hynny oedd y ffaith fy mod i wedi dod o hyd i swydd pan oeddwn yn iau, a’i bod yn hawdd aros yn y swydd honno’n ennill arian gweddol. Ond doeddwn i byth yn wirioneddol hapus ynddi.

“Mae’n rhyfedd, oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo’n ofnus ar y pryd. Roedd fel pe bai’n teimlo yn iawn (newid swydd). Dyna oedd yr adeg iawn i wneud hynny, a dwi’n difaru dim wrth edrych yn ôl. A dweud y gwir, byddai’n dda gen i pe bawn i wedi cymryd y cam flynyddoedd ynghynt.”

Erbyn hyn, mae Sean yn aelod llawn-amser o’r Tîm Cynnal a Chadw ac mae ganddo grefft (mae’n saer ac yn weithiwr aml-grefft) – sy’n rhywbeth yr oedd yn awyddus i’w wneud pan wnaethom siarad ag ef gyntaf yn rhan o Dyma’r Sector Tai yn 2021.

“Byddwn yn bendant yn argymell prentisiaeth i unrhyw un sy’n ystyried gwneud un, hyd yn oed yn nes ymlaen mewn bywyd. Cyhyd â bod gennych yr agwedd iawn a’ch bod yn barod i wrando a dysgu, byddwch yn siŵr o lwyddo.”

Ac fel mae’n digwydd, mae gennym Brentisiaeth Wag yr wythnos hon! Ewch i fwrw golwg arni.

Diolch, Sean, a llongyfarchiadau!

Cyhoeddwyd: 07/02/24