Dewch i gwrdd â Stefan. Cwblhaodd ei brentisiaeth fel plymer gyda’r cynllun Cyfle a gydag ateb yn ôl yn 2014, ac erbyn hyn mae’n gweithio yn llawn-amser fel Peiriannydd Gwresogi a Phlymio.
Cawsom gyfle i gwrdd â Stefan yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, gan ofyn iddo sut y gwnaeth ateb ei helpu yn ystod ei brentisiaeth?
“Dim ond i ryw fan yr oedd Cyfle yn gallu mynd â fi, a gydag ateb y gwnes i weddill fy mhrentisiaeth. Roedd fy mhrofiad gwaith i gyd gydag ateb. Felly, pan ddaeth fy nghontract tymor penodol i ben, gwnaeth ateb hi’n bosibl i fy mhrentisiaeth barhau er mwyn i fi allu ei gorffen. Bûm yn ffodus i gael swydd barhaol gydag ateb fel Peiriannydd Gwresogi a Phlymio Datblygol ar ôl fy mhrentisiaeth. Heb os, gwnaeth yr holl sgiliau a’r holl brofiad a enillais yn ystod fy mhrentisiaeth fy helpu i gael y swydd honno!
“Ers hynny, rwyf wedi dod yn Beiriannydd Gwresogi a Phlymio profiadol, ar ôl treulio cyfnod gyda chwmni arall cyn dod yn ôl i ateb.
“Rwy’n teimlo bod ateb wedi bod yn wirioneddol gefnogol, yn enwedig o ran hyfforddiant a datblygiad personol.”
Pa gyngor y byddech yn ei roi i eraill sy’n gwneud cais am brentisiaeth?
“Mae yna gymaint o gyfleoedd i ddysgu wrth weithio yn ystod eich prentisiaeth gydag ateb, felly peidiwch â gadael i’ch brwdfrydedd a’ch ymrwymiad gilio a byddwch yn barod i ddysgu!
Mae gennym gyfle ar hyn o bryd yn ein tîm (i Brentis Gwresogi a Phlymio) a byddwn yn bendant yn ei argymell. Os ydych yn ystyried dechrau ar eich gyrfa, neu hyd yn oed yn ystyried newid eich gyrfa yn nes ymlaen yn eich bywyd, mae prentisiaeth yn ffordd wych o gael eich troed ar yr ysgol a dysgu wrth weithio.”
Llongyfarchiadau, Stefan.