Yn rhan o’r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, rydym yn falch o dynnu sylw at ein hymroddiad parhaus i sicrhau bod Grŵp ateb yn amgylchedd diogel, cynhwysol a chroesawgar i bawb. Eleni, rydym unwaith eto wedi dangos ein hymrwymiad drwy gyfrwng cyfres o sesiynau hyfforddiant effeithiol a oedd yn canolbwyntio ar Niwroamrywiaeth, Aflonyddu Rhywiol yn y Gweithle, a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gyffredinol.
Roedd yr hyfforddiant hwn, a gyflwynwyd gan Craig Rees o CTR Care Training, yn gyfle pwysig i aelodau ein tîm ddod ynghyd a dysgu sut y gallwn gynnig cefnogaeth well i’n gilydd ac i’n cwsmeriaid a’n cymunedau. Meddai Craig wrth sôn am y profiad:
“Roedd yn braf rhyngweithio â holl aelodau tîm ateb—roedd pawb yn parchu safbwyntiau a chyfraniadau ei gilydd. Roedd yn arbennig o galonogol gweld aelodau bwrdd, y Cyfarwyddwyr a staff o bob rhan o’r sefydliad yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant, gan ddangos ymrwymiad go iawn i DNA ateb, i amrywiaeth, cydraddoldeb a thegwch ac i hyrwyddo diwylliant cynhwysol.”
Yng Ngrŵp ateb, rydym yn credu bod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn gofyn am fwy nag ymdrech dros dro yn unig. Rydym yn ymgymryd â’r hyfforddiant pwysig hwn bob blwyddyn, gan sicrhau ein bod yn parhau i dyfu ac esblygu fel sefydliad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb i bawb, ac rydym yn ymgymryd â llawer o fentrau eraill hefyd. Drwy gymryd rhan yn y sesiynau hyn, mae sgiliau gwell gan ein tîm i ddeall a diwallu anghenion amrywiol ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid a gwrthwynebu unrhyw fath o wahaniaethu neu gasineb.
Gyda’n gilydd, rydym yn cymryd camau i sicrhau nad oes lle i gasineb yn ein cymunedau, ac rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod ateb yn fan lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
I ddysgu mwy am ein mentrau ac i ddarllen am ein Polisi Troseddau Casineb, sydd newydd gael ei gymeradwyo, ewch i’r dudalen hon: Polisi Troseddau Casineb Grŵp ateb.
Sut mae rhoi gwybod am drosedd gasineb
Os ydych wedi dioddef trosedd gasineb, gallwch roi gwybod amdani i’r heddlu neu’r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (a gaiff ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr). Gallwch roi gwybod am droseddau o’r fath hefyd os byddwch yn eu gweld yn digwydd i rywun arall.
Gall yr heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr gynnig help i chi ddelio â’r hyn sydd wedi digwydd i chi a dod o hyd i ffordd ymlaen.
Yr heddlu
Mewn argyfwng, ffoniwch 999
Mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101
Cymorth i Ddioddefwyr
Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr yn lle siarad â’r heddlu. Mae’r elusen yn darparu help, cyngor a chymorth annibynnol, cyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr yn rhad ac am ddim unrhyw bryd ar 0300 3031 982.
Ewch i’r wefan lle gallwch roi gwybod am drosedd gasineb a chael gwybod mwy am ddulliau o gael cymorth.