Yr wythnos diwethaf, buom yn dathlu Wythnos Mynd Ar-lein—a oedd yn gyfle gwych i’n cwsmeriaid ddysgu sgiliau TG newydd a chymryd camau tuag at fod yn hyderus gyda thechnoleg ddigidol. Andrew, ein Cydlynydd Lles Cymunedol, fu’n arwain yr ymgyrch ar ran ateb a chyflwynodd Daith Her y Cacennau Bach i gyd-fynd â’r fenter er mwyn i bawb gael mwy o hwyl a mwy o flas arni. Roedd y cysyniad yn un syml: gwnewch un peth ar-lein gydag Andrew a chewch gacen fach flasus yn wobr am hynny!
Mae’r Wythnos Mynd Ar-lein, sef ymgyrch mwyaf y DU ym maes cynhwysiant digidol, a drefnir gan y Good Things Foundation, wedi bod yn cael ei chynnal ers 2007. Eleni, o 14 Hydref tan 20 Hydref, bu Andrew yn teithio o gwmpas cymunedau Sir Benfro, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ac yn ymgysylltu â chwsmeriaid er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau digidol hanfodol sy’n ofynnol yn y byd sydd ohoni.
Meddai Andrew: “Bu’n wythnos brysur!! Aeth pethau’n arbennig o dda a gwnaethom lwyddo i gael llawer o gysylltiadau â chwsmeriaid – cyfanswm o 41 ar gyfer Her y Cacennau Bach. Cefais fy synnu gan nifer y cwsmeriaid a oedd yn disgwyl amdanaf ym mhob cynllun. Ar ôl gosod dyfais Alexa yn De Clare Court, buom yn gwrando ar gerddoriaeth tra oedd y cwsmeriaid yn bwyta eu cinio. Bûm allan yn y gymuned gyda’r Sioe Deithiol Ddigidol a mynychais y digwyddiad cyhoeddus ‘Bwydo’r Ward’ yn Haverhub ar y dydd Iau, a oedd yn gyfle arall i gwrdd â phobl a’u helpu gan rwydweithio â sefydliadau lleol eraill ar yr un pryd.”
I lawer, mae’r bwlch digidol yn her wirioneddol o hyd. Gall cael eich allgáu yn ddigidol ei gwneud yn anos i chi gael gafael ar wasanaethau pwysig, cysylltu â theulu a ffrindiau, neu hyd yn oed ymgeisio am swyddi. Yng Ngrŵp ateb, rydym yn deall pa mor bwysig yw cynhwysiant digidol o safbwynt sicrhau bod pawb yn ein cymunedau’n gallu cymryd rhan yn llawn mewn bywyd yn yr oes sydd ohoni. Dyna pam yr ydym yn falch o ariannu prosiect Andrew a chefnogi’r ymgyrch yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i rymuso cwsmeriaid a chreu dyfodol gwell.
Drwy gymorth un i un, a gweithgareddau ymarferol, bu Andrew yn gweithio gyda chwsmeriaid ar bob lefel o ran sgiliau—boed drwy helpu i greu cyfeiriad ebost newydd, dysgu sut mae siopa ar-lein neu ddysgu sut mae ymdrin â gwasanaethau hanfodol ar-lein. Yn ogystal â chael cacennau bach i fynd gyda nhw, cafodd y cyfranogwyr rywbeth a oedd yn fwy gwerthfawr fyth, sef yr hyder i barhau i archwilio’r byd digidol ar eu pen eu hunain.
Ond nid oedd ymdrechion Andrew wedi’u cyfyngu i’r digwyddiadau hynny’n unig. Creodd ei frwdfrydedd a’i arbenigedd amgylchedd cynnes a chroesawgar lle’r oedd cwsmeriaid yn teimlo’n ddigon cyffyrddus i ofyn cwestiynau a mynd i’r afael â thasgau a fyddai efallai wedi codi ofn arnynt o’r blaen. O helpu i osod dyfais Alexa i ddangos i gwsmer sut mae mewngofnodi i’r cyfleuster Fy nghyfrif ateb newydd, sicrhaodd Andrew fod pob achos o ryngweithio â phobl yn cael effaith gadarnhaol go iawn.
Mae’r Wythnos Mynd Ar-lein ar gyfer eleni wedi dod i ben, ond mae’r gwaith o bontio’r bwlch digidol yn parhau. Yng Ngrŵp ateb, byddwn yn parhau i gynorthwyo ein cwsmeriaid â mentrau fel hyn, ac yn sicrhau bod ganddynt yr offer a’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy digidol. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, rydym wedi ymrwymo o hyd i fynd i’r afael ag allgáu digidol ac i sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u cefndir neu’u profiad, yn cael y cyfle i fynd ar-lein ac i gadw mewn cysylltiad ag eraill.
Gallwch gael gwybod mwy am waith Andrew, am ein llyfrgell fenthyca ddigidol, am ein cynllun data am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol, a llawer mwy yma.