COVID 19 Stay at Home Message

Y diweddaraf am effeithiau’r Coronafeirws ar wasanaethau ateb

Diweddarwyd ddiwethaf ar 08/01/2021

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’n diweddariad blaenorol ar 22/12/2020.

Diweddarwyd ar 22/12/2020

Mae ein swyddfeydd ar gau ond gallwch gysylltu â ni o hyd ar 01437 763688 neu e-bost [email protected]

Y newyddion diweddaraf 

  • Fel landlord cyfrifol, byddwn yn parhau â’n rhaglen o roi gwasanaeth i offer nwy. Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chofrestr Gas Safe yn ofalus. Hoffem hefyd ofyn i bob un o’n cwsmeriaid roi gwybod i ni, cyn bod ein peirianwyr yn ymweld â nhw, os ydyn nhw neu rywun sy’n byw yn yr un cartref â nhw’n hunanynysu neu’n dioddef o COVID-19. Yn y cyfamser, mewn argyfwng sy’n ymwneud â nwy, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01437 763688
  • Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch y cyfnod clo diweddaraf, mae ein meysydd chwarae yn awr ar agor
  • Bydd y gwaith o lanhau ardaloedd cyffredin yn parhau.
  • Bydd archwiliadau larymau tân ac archwiliadau diogelwch yn parhau.

Dylech sicrhau eich bod chi, eich ffrindiau a’ch teulu i gyd yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth bob amser. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

I weld pob diweddariad arall, ewch i’n tudalen ‘Newyddion diweddaraf am y Coronafeirws’ yma.

Diweddarwyd ar 13/12/2020

Mae ein swyddfeydd ar gau ond gallwch gysylltu â ni o hyd ar 01437 763688

Y newyddion diweddaraf 

  • Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch y cyfnod clo diweddaraf, mae ein meysydd chwarae yn awr ar agor.
  • Fel landlord cyfrifol, byddwn yn parhau â’n rhaglen o roi gwasanaeth i offer nwy. Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chofrestr Gas Safe yn ofalus. Hoffem hefyd ofyn i bob un o’n cwsmeriaid roi gwybod i ni, cyn bod ein peirianwyr yn ymweld â nhw, os ydyn nhw neu rywun sy’n byw yn yr un cartref â nhw’n hunanynysu neu’n dioddef o COVID-19. Yn y cyfamser, mewn argyfwng sy’n ymwneud â nwy, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 01437 763688.
  • Dylech sicrhau eich bod chi, eich ffrindiau a’ch teulu i gyd yn dilyn cyngor diweddaraf y Llywodraeth bob amser. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Yn dilyn llythyr y Gweinidog Tai at bob tenant tai cymdeithasol yng Nghymru (cliciwch yma i’w ddarllen), mae ateb wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy’n esbonio sut yr ydym yn bwriadu cynorthwyo ein cwsmeriaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i gael gwybod sut y byddwn: