Y diweddaraf am wasanaethau’n dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Llun 19 Hydref 2020

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Llun 19 Hydref am gyfnod atal byr, rydym wedi adolygu’r effaith y bydd hynny’n ei chael ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i’n cwsmeriaid.

Byddwn yn parhau i sicrhau bod ein cwsmeriaid wrth wraidd yr hyn a wnawn, ond bydd yn rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol oherwydd y newidiadau hyn a fydd mewn grym o 6pm nos Wener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd. Isod, fe welwch chi newidiadau i’r modd y bydd ein gwasanaethau’n cael eu darparu yn ystod y cyfnod dan sylw, sy’n cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Gosod tai

  • Byddwn yn parhau i hysbysebu a dyrannu cartrefi gwag, ond dim ond drwy ddulliau rhithwir y bydd pobl yn gallu gweld y cartrefi hynny
  • Ni fydd unrhyw gartrefi’n cael eu gosod, eu trosglwyddo na’u cydgyfnewid nes y bydd y cyfnod atal wedi pasio, oni bai ei bod yn amhosibl gohirio hynny e.e. oherwydd bod perygl i rywun fod yn ddigartref

 

Gwaith atgyweirio

  • Byddwn yn parhau i weithio mewn cartrefi nad oes neb yn byw ynddynt
  • Bydd gwaith brys yn parhau, ond bydd unrhyw waith nad yw’n waith brys yn cael ei ohirio nes y bydd y cyfnod atal wedi pasio

 

Gwaith a gynlluniwyd

  • Bydd gwaith allanol a gynlluniwyd yn parhau, ond bydd unrhyw waith mewnol a gynlluniwyd yn cael ei ohirio yn ystod y cyfnod atal oni bai ei fod yn eiddo nad oes neb yn bwy ynddo

 

Cydymffurfio

  • Eich diogelwch chi yw ein prif flaenoriaeth, felly byddwn yn parhau i gynnal pob archwiliad diogelwch a phob archwiliad cydymffurfio

 

Cynlluniau tai gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol

  • Bydd lleoedd trin gwallt yn cau
  • Dim ond yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru y bydd ymweliadau’n gallu digwydd

 

Gallwch barhau i’n ffonio ar 01437 763688 neu anfon ebost i [email protected] neu gallwch drefnu apwyntiad fideo yma