Y rownd gyntaf o gyllid gan Ymddiriedolaeth ateb yn cefnogi saith prosiect lleol – ac mae rhagor i ddod

Yn gynharach eleni, roedd ateb yn falch o allu lansio Ymddiriedolaeth ateb sy’n cynnig grantiau gwerth hyd at £1,500 i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau ateb. Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu i gefnogi mentrau sy’n helpu cymunedau i fod yn fwy hunangynhaliol a chydnerth, sy’n adfywio cymdogaethau ac sy’n galluogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi.

Mae’r weledigaeth ar gyfer Ymddiriedolaeth ateb yn un syml – sef ysbrydoli newid er gwell ar draws cymunedau ateb a helpu pobl i deimlo’n ddiogel ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y rownd gyntaf o gyllid wedi cau ddiwedd mis Ionawr. Yn dilyn asesiad trylwyr o’r ceisiadau gan aelodau o dîm ateb a chwsmeriaid, cafodd saith o brosiectau lleol gwych eu dewis i gael grantiau a oedd yn werth cyfanswm o £7,000.

Un o’r mudiadau dan sylw yw PATCH (Pembrokeshire Action to Combat Hardship) y cafodd £1,500 ei ddyfarnu iddo er mwyn ei helpu i brynu bwyd i bobl sydd ag anghenion dietegol penodol. Mae PATCH eisoes yn cydweithio’n agos ag ateb ac yn rhoi yn rheolaidd i’n cwsmeriaid gymorth y mae arnynt ei angen yn fawr. Yn ystod yr Apêl Teganau Nadolig yn unig eleni, dosbarthodd PATCH dros 70 o barseli bwyd i gwsmeriaid ateb.

Meddai David Golding o PATCH yn ddiolchgar:

“Gyda chefnogaeth Ellen Picton, ein hymddiriedolwr newydd, a Lucy (PATCH), rydym wrthi’n gweithio i greu parseli iachach a mwy cynhwysol, gan sicrhau nad oes neb yn cael eu heithrio oherwydd alergeddau, anghenion dietegol neu anallu i oddef rhai mathau o fwydydd. Bydd y rhodd hon gan ateb yn ein helpu i brynu’r bwydydd arbenigol hynny, ac rydym yn ddiolchgar dros ben amdani ac am y gwahaniaeth y bydd yn ei wneud. Diolch, ateb.”

Meddai Amy Williams, Arweinydd y Tîm Atebion o ran Tai:

“Mae gennym berthynas wych â PATCH, ac mae’r mudiad yn camu i’r adwy yn rheolaidd i helpu ein cwsmeriaid â pharseli bwyd pan fyddant yn mynd drwy gyfnod anodd. Roeddwn yn falch iawn o weld bod y mudiad wedi cyflwyno cais i Ymddiriedolaeth ateb, ac roeddwn yn fwy balch fyth pan glywais i bod ein Fforwm Cwsmeriaid wedi cymeradwyo’r cais. Maent yn llawn haeddu’r grant!”

Cafwyd ceisiadau llwyddiannus eraill gan sawl un o Grwpiau cwsmeriaid ateb, a wnaeth sicrhau cyllid ar gyfer gwelliannau megis mainc newydd ar gyfer gardd a set deledu i’w rhannu, er mwyn ceisio lleihau unigrwydd ymhlith pobl hŷn sy’n byw yng nghymunedau ateb.

At hynny, llwyddodd Get The Boys A Lift, Amber Bee a Men 2 Men CIC, sy’n fudiadau lleol, i gael cyllid i gefnogi eu prosiectau pwysig sydd o fudd i gymunedau ateb.

Meddai Mark Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid, sydd ar y dde yn y llun uchod:

“Er mwyn helpu cymunedau i fod yn fwy hunangynhaliol a chydnerth, adfywio cymdogaethau a galluogi pobl hŷn ac agored i niwed i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi, rydym yn gwybod bod angen i ni weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â chwsmeriaid ateb ac â mudiadau lleol yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector. Mae’n braf gweld y bydd y prosiectau a gefnogir drwy’r rownd hon o gymorth ariannol yn cyfrannu at helpu cymunedau ateb i ffynnu.”

Bydd y rownd nesaf o gyllid gan Ymddiriedolaeth ateb yn agor ym mis Gorffennaf eleni. Os oes gennych syniad a allai fod o fudd i’ch cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

I gael rhagor o wybodaeth a chael manylion am sut i wneud cais, ewch i dudalen Ymddiriedolaeth ateb ar y we.

Cyhoeddwyd: 25/03/2025