Gall cwsmeriaid sy’n cael Credyd Cynhwysol, neu Gredydau Treth Gwaith, neu Gymhorthdal Incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm hawlio un taliad o £100 gan Gyngor Sir Penfro neu’u hawdurdod lleol i’w helpu i dalu eu biliau tanwydd yn ystod y gaeaf.
Waeth a ydych fel rheol yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, drwy fesurydd talu ymlaen llaw neu ag arian parod dros y cownter, mae’r taliad ar gael i unrhyw un sy’n gymwys (mae’r telerau a’r amodau llawn i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Penfro).
Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un person ar yr aelwyd yn cael budd-daliadau lles penodol. I fod yn gymwys, rhaid eich bod wedi hawlio’r budd-daliadau unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022. Dyma’r budd-daliadau dan sylw:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Credydau Treth Gwaith.
Rhaid hefyd eich bod yn gyfrifol am dalu’r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.
Mae llythyrau wedi cael eu hanfon gan Gyngor Sir Penfro yr wythnos hon i roi gwybod i aelwydydd cymwys am y cynllun gwych hwn. Os nad ydych wedi cael llythyr ac os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys, gallwch fynd i wefan Cyngor Sir Penfro i hawlio’r taliad.
https://www.sir-benfro.gov.uk/cymhorthdal-incwm/taliadau-tanwydd-gaeaf
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y cyngor a gwiriwch fod gennych bopeth y mae arnoch ei angen cyn hawlio’r taliad.