Ymddiriedolaeth ateb

Croeso i Ymddiriedolaeth ateb

Yn cefnogi cymunedau, yn newid bywydau

Yn ateb, rydym yn credu bod byw’n well yn dechrau gyda lle y gallwn ei alw’n gartref. Ond mae cartref yn fwy na phedair wal yn unig – mae’n sylfaen ddiogel, gadarn y gall pobl a chymunedau ffynnu ohono. Cafodd Ymddiriedolaeth ateb ei chreu er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon drwy gefnogi prosiectau sy’n hybu lles ac yn creu cyfleoedd i’r sawl y mae arnynt eu hangen fwyaf.

Person on bench overlooking Kensington Court

Beth yw Ymddiriedolaeth ateb?

Ymddiriedolaeth ateb yw ein menter rhoi grantiau, y bwriedir iddi roi cyllid i syniadau a phrosiectau sy’n grymuso cymunedau ac yn gwella bywydau yn yr ardaloedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Drwy ddefnyddio canran o’r rhodd cymorth a geir gan Mill Bay Homes, ein nod yw cefnogi’r sawl sydd â’r un diben â ni: sef creu atebion gwell o ran byw i bawb.

Mae grantiau gwerth hyd at £1,500 ar gael i brosiectau sy’n cyd-fynd ag un neu ragor o’r nodau canlynol:

  • Helpu cymunedau i fod yn hunangynhaliol ac yn gydnerth
  • Adfywio cymdogaethau drwy fentrau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a mentrau lles
  • Cynorthwyo pobl hŷn ac agored i niwed i barhau i fyw yn eu cartrefi a’u cymunedau

Bydd tair rownd gyllido bob blwyddyn.

  • Bydd rowndiau pan fydd grwpiau’n gallu cyflwyno eu ceisiadau ar agor yn ystod y misoedd canlynol – Gorffennaf, Hydref ac Ionawr.
  • Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn ystod y misoedd canlynol – Awst, Tachwedd a Chwefror.
  • Bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu yn ystod y misoedd canlynol – Medi, Rhagfyr a Mawrth.

Y broses gwneud cais

  • Pwy all wneud cais?

  • Sut mae gwneud cais

children enjoying community event

Pam y mae Ymddiriedolaeth ateb yn bwysig

Rydym yn deall pwysigrwydd cefnogi prosiectau:

  • Sy’n ysbrydoli newid er gwell mewn cymunedau
  • Sy’n helpu pobl i deimlo’n ddiogel ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso
  • Sy’n sicrhau effaith gynaliadwy, hirdymor.

Boed yn ardd gymunedol, yn weithdai lles neu’n fentrau sy’n cysylltu pobl â’i gilydd, mae Ymddiriedolaeth ateb yma i roi cyllid i syniadau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth.

Families enjoying the weather

Straeon llwyddiant

Rydym wrth ein bodd yn dathlu effaith anhygoel y prosiectau a gefnogir gennym. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu hannog i rannu eu straeon â ni er mwyn ysbrydoli pobl eraill a dangos grym newid a arweinir gan y gymuned.

Dechreuwch arni heddiw

Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth? Dechreuwch gynllunio eich cais yn awr er mwyn bod yn rhan o rywbeth arbennig.

Dyddiad agor y rownd gyllido nesaf: 

Dydd Llun 6 Ionawr 2025; bydd yn cau ganol nos, nos Wener 31 Ionawr 2025.

Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho’r ffurflen gais i’ch cyfrifiadur ac yn ei llenwi ar adeg sy’n gyfleus i chi. Ceisiwch osgoi ei llenwi ar ein gwefan ni, oherwydd ni fydd eich cynnydd yn cael ei gadw’n awtomatig. Pan fyddwch wedi gorffen llenwi’r ffurflen, anfonwch hi atom drwy ebost.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni yma: [email protected]

Cymryd rhan yn ateb

Talu eich rhent

Sôn am waith atgyweirio

Gofyn am apwyntiad

Mae siarad â ni yn hawdd.

Am unrhyw ymholiadau neu faterion, anfonwch e-bost atom ar [email protected]

Dewch i mewn i siarad â ni wyneb yn wyneb, yn SA61 1QP →

Ffoniwch a siaradwch ag un o’n tîm hyfryd ar
01437 763688 →