Yw ateb yn gwrando arnoch?

Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud….. Peidiwch â chael eich gadael ar ôl….

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn casglu eich barn ynghylch a ydych yn teimlo ein bod wedi gwrando arnoch ac wedi gweithredu yn sgil yr hyn y gwnaethoch ei ddweud.

Drwy gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i weld a ydym yn diwallu eich anghenion. Os bydd yr arolwg yn dangos nad ydym yn gwneud hynny, ein nod yw newid ein ffyrdd er mwyn rhoi profiad gwell i chi.

Cofiwch gymryd eich amser i lenwi’r holiadur byr hwn a chofiwch achub ar y cyfle ar y diwedd i ennill gwobr o £100.  Cliciwch yma i gymryd rhan.

Bydd y canlyniadau ar gael ar-lein ym mis Awst 2022.

Mae croeso i chi gysylltu ag Ali Evans: 01437 774766 / 07500 446611  [email protected]

Cyhoeddwyd 08/04/22